Mae’n Ddydd Santes Dwynwen heddiw. Mae Santes Dwynwen yn y sied gyda Dewi Sant. Mae’r sied yn siglo o ochr i ochr. Does neb yn dweud unrhyw beth.
Mae Daf y gath yn dod draw i Jeff.
– Dydd Santes Dwynwen Hapus. Mae gyda fi anrheg i ti, meddai Daf.
– Cwstard cariad yw e, on’d yw e?
Mae golwg siomedig ar Daf.
– Ydy mae.
– Yr ynfytyn, meddai Jeff, a bant â hi.