Mae Daf y gath yn crafu’n wyllt.
Bag o chwain yw hi. Mae Jeff yn cadw draw oddi wrthi hi.
– Paid â dod yn agosach, meddai Jeff. – Dw i ddim eisiau chwain.
Heb rybudd, mae Daf yn rhuthro’n fwriadol tuag ati hi, a rhwbio ei hun ar hyd ochrau Jeff cyn i Jeff allu gwneud unrhyw beth amdani.
– Pam wnest ti hynny? gofynna Jeff.
– Problem wedi’i haneru yw problem wedi’i rhannu, ateba Daf, yn sarcastig.
– Bydda i’n dy haneru, os wyt ti ddim yn ofalus, meddai Jeff, cyn dechrau crafu’n wyllt.