– Beth sydd i fyta am bwdin? meddai Jeff, ar ôl iddi hwfro ei bwyd i lan oddi ar y llawr. – Mae chwant pwdin arna i.
– Ti’n jôcan? meddai Daf.
– Nac ydw. Dw i’n llwgu.
– Fi’n ffaelu dy gredu di weithiau. Sdim byd i gael. A beth bynnag, mae’r staff wedi rhedeg bant oherwydd y ddraig.
– Wel, mae rhaid i ni gael gwared ohoni, ‘te. So ni’n gallu gadael y peth yn gorwedd yno.
– So fe’n lew, draig yw e.
Roedd Daf yn gwybod na fyddai’r jôc yn gweithio yn Gymraeg, ond, wel, dyna ni. Griddfanodd Jeff.
– Ble mae’r staff? Dw i isie pwdin.
Cafodd hi syniad.
– Daf?
– Ie?
– Beth am i ni ddefnyddio hud a lledrith i droi e’n fasnaid mawr o gwstard? meddai Jeff, yn gyffrous. – Gallwn ni ofyn i’r madarch hudol am help.
– Mae’n swnio fel lot o waith, atebiodd Daf.
– Bydd hi ddim yn broblem. Weli di, meddai Jeff, cyn anelu at waelod yr ardd lle’r oedd y madarch yn cuddio.