October 17, 2024

Ac yntau’n gwisgo ei arfwisg fwyaf ysblennydd, mae’r enwog Owain Glyndŵr yn brysur yn yr ardd.

Mae e’n palu twll yn y ddaear gyda’i drywel bach a dderbynnodd fel anrheg gan Santes Dwynwen.

Mae’r twll yn eitha dwfn erbyn hyn. Does dim ond ei ben sydd i’w weld. Mae e’n palu’n frwdfrydig iawn.

– Pam ma’r lleban ‘na’n palu mor frwdfrydig? gofyn Daf y gath i Dewi Sant.

– Ma fe isie cyrredd y Crymych Arall y tu hwnt i’r gorwel, ateb Dewi Sant.

Ond dyw’r enwog Owain Glyndŵr ddim yn deall nad yw e’n bosib croesi’r gorwel i’r Crymych Arall trwy balu. Dyw e ddim hyd yn oed yn deall beth yw’r gorwel.

Felly mae e’n parhau i balu ei dwll.

“Mae’r enwog Owain Glyndŵr yn brysur yn yr ardd.”

Saesneg / English

Hole

Wearing his most splendid armour, the famous Owain Glyndŵr is busy in the garden.

He is digging a hole in the ground with his little trowel that he received as a gift from Saint Dwynwen.

The hole is now quite deep. Only his head is visible. He is digging very enthusiastically.

– Why is that buffoon digging so enthusiastically? Dave the cat asks Saint David.

– He wants to reach the Other Crymych beyond the horizon, replies Dewi Sant.

But the famous Owain Glyndŵr does not understand that it is not possible to cross the horizon to the Other Crymych by digging. He doesn’t even understand what the horizon is.

So he continues to dig his hole.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.