Mae J. R. Hartley yn gwrthod gadael siop lyfrau Dewi Sant hyd nes bod rhywun yn cytuno i fod yn rhith-awdur ar gyfer ei lyfr newydd am lygredd afonydd.
Mae Santes Dwynwen yn nôl teipiadur o rywle a’i daflu’n ddiseremoni ar y cownter.
– Awn ni amdani, ‘te.
Mae’r teipiadur yn swnllyd iawn, ac mae Daf y gath yn gwylio Santes Dwynwen yn teipio ar gyflymder o gan milltir yr awr. Mae cloch yr hen beiriant yn canu’n aml, ac mae’n amlwg bod Santes Dwynwen yn gynhyrchiol iawn.
Ar ôl cwpl o oriau, mae hi’n estyn teipysgrif i J. R. Hartley.
– Ond traethawd am gwstard yw hwn, meddai’r awdur henoed yn siomedig.
– Ody, meddai Santes Dwynwen, yn falch iawn ohoni ei hun.
Saesneg / English
Alternative subject
J. R. Hartley is refusing to leave Saint David’s bookshop until someone agrees to be a ghostwriter for his new book about river pollution.
Saint Dwynwen fetches a typewriter from somewhere and throws it unceremoniously on the counter.
– Let’s go for it, then.
The typewriter is very noisy, and Dave the cat watches Saint Dwynwen typing at a speed of a hundred miles an hour. The bell of the old machine rings frequently, and Saint Dwynwen is obviously very productive.
After a couple of hours, she hands J. R. Hartley a typescript.
– But this is an essay about custard, says the elderly author disappointedly.
– It is, says Santes Dwynwen, very proud of herself.