October 17, 2024

Mae Daf y gath wedi cael syniad da iawn am ennill bach o arian. Eisteddfod bydd ei menter nesaf – eisteddfod uffern.

Bydd hynny’n ennill digon o arian iddi brynu bag enfawr o Dreamies, bownd o fod.

Mae’r enwog Bryn Terfel a’i efell Owain Glyndŵr yn dychwelyd o’u teithiau a gweld pafiliwn yn cael ei adeiladu yn ogystal â phedwar maes.

– Maes D fydd Maes Diflastod, eglura Daf, – lle bydd llawer o gerddi am bridd. Maes E fydd Maes yr Esgob, lle bydd yr Esgob-Ddiawl yn grwnan ymlaen am oriau i gyfeiliant telyn.

– Beth am Faes C? Ti di gadael hwnna mas, meddai Jeff y gath.

– Maes y Cwstard yw hwnna. Bydd Santes Dwynwen yn gwenwyno pawb gyda’i rysáit newydd.

– Beth yw’r un olaf?

– Maes P. Maes y Procer Poeth.

– Wel, mae hyn yn sicr o fod yn llwyddiant mawr, meddai Jeff heb ddiddordeb.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.