October 17, 2024

Mae’r enwog Bryn Terfel wedi cael damwain ar y trapîs yn y syrcas.

O diar.

Beth ddigwyddodd?

Roedd e’n gwneud ei act arferol yn ei wisg Siôn Corn pan welodd e het ysblennydd ar ben rhywun yn y gynulleidfa. Roedd yr het fel tun rhostio, ond yn well fyth.

Anghofiodd cydio yn y trapîs.

Hwyliodd drwy’r awyr a glaniodd yng nghanon y belen canon ddynol.

Bu ffrwydrad.

O diar.

Dyna’r enwog Bryn Terfel yn mynd ar ei ffordd i’r Ffrainc.

Saesneg / English

Accident

The famous Bryn Terfel has had an accident on the trapeze in the circus.

Oh dear.

What happened?

He was doing his usual act in his Santa outfit when he saw a splendid hat on the head of someone in the audience. The hat was like a roasting tin, but even better.

He forgot to grab hold of the trapeze.

He sailed through the air and landed in the human cannonball’s cannon.

There was an explosion.

Oh dear.

There goes the famous Bryn Terfel on his way to France.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.