Mae Prifdaten arall wedi ymddangos, gyda byddin arall o ddilynwyr, er gwaetha’r malltod. Mae’n amhosib cael gwared arnyn nhw.
Mae’r Prifdaten yn patrolio ffiniau’r ardd wrth weiddi mewn priflythrennau. Mae e am ynysu’r ardd yn gyfan gwbl.
– FYDD NEB YN PASIO, meddai.
– O cau dy ben, meddai Daf y gath, cyn neidio ar y ffens. – Tost byddwch chi gyd ar ôl yr etholiad nesa.
Yn y cyfamser, mae Dewi Sant yn ei sied, yn pleidleisio yn erbyn ei hunan.
Saesneg / English
Borders
Another Prime Potato has appeared, with another army of followers, despite the blight. It is impossible to get rid of them.
The Prime Potato patrols the garden borders while shouting in capital letters. He wants to isolate the garden completely.
– NO ONE SHALL PASS, he says.
– Oh shut your mouth, said Dave the cat, before jumping on the fence. – You will all be toast after the next election.
Meanwhile, Saint David is in his shed, voting against himself.