1338: Mrs. Cadog

Pwy yw Mrs. Cadog?

Jeff y gath yn wherthin ar ol iddi rhoid y sied fridio ar dân

Sani hi’n ffrind i’r uffernol Harri Benwyn yn union, gan na all ffasgwyr gadw perthnase ddwfn â neb ond nhw ‘u hunen.

Ond bydd hi’n neud ta beth ma Harri Benwyn yn gofyn iddi neud.

Ac ma hi’n llawn atgasedd. Ma hi’n enjoio rhoid pawb in ‘i le.

Yn ddiweddar ma Mrs Cadog ‘di bod ar y cyffurie colli pwysau, ac ma hi’n drichid fel sugnwr gwâd wedi disichu. Ma hi hefyd ar i sbîd fel lot o ffasgwyr enwog.

Dina sy’n goligu bod hi’n baranoiaidd ac in gas.

Grêt.

Ma gida Mrs. Cadog roces fach, sef Elin Conan. Ma Elin Conan in dwad o “bant”, sef Maenclochog.

Ma Elin Conan hefyd yn llawn atgasedd, ond ma hi’n gwbwl infid, sy’n peri iddi fod yn dansherys tu hwnt. Ma Elin Conan in rheoli’r heddlu cudd.

Grêt.

Wes risg bydd ir uffernol Harri Benwyn in rhoid i ddwy in i sied fridio?

Na wes.

Pam hinny?

Achos bod Jeff y gath newydd rhoid i sied fridio ar dân.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.