Mae’r cathod wedi hwylio eu llong bleser nhw i Ddakar.
Mae Daf y gath yn gynhyrfus iawn. Mae hi am yrru Land Rover neu ryw fodur all-ffordd arall, a rhoi shot ar Rali Dakar.
Dyw Jeff ddim o blaid ei syniad.
— Ble ti mynd i gal Land Rover? gofyn Jeff.
— ‘Na un, draw fan ‘co, medd Daf.
Mae hi’n cyfeirio at fwced rydlyd wrth ymyl y ffordd.
— Bwced yw honna, medd Jeff.
Mae’r cathod yn clywed sŵn injan yn dod yn fyw, cyn gwylio’r enwog Bryn Teribl yn rhuthro i ffwrdd ar gefn tractor.
— MYND I RASO! cana Bryn, cyn crasho i mewn i dractor arall.
Annwyl ddarllenwyr, dyw e ddim yn mynd i rasio. Bydd rhaid i Rali Dakar gwneud heb ei dalentau.
Saesneg / English
Senegal
The cats have sailed their yacht to Dakar.
Daf the cat is very excited. She wants to drive a Land Rover or some other off-road vehicle, and give the Dakar Rally a shot.
Jeff is not in favour of her idea.
— Where are you going to get a Land Rover? asks Jeff.
— There’s one, over there, says Dave.
She points at a rusty bucket by the side of the road.
— That’s a bucket, says Jeff.
The cats hear the sound of an engine coming to life, before watching the famous Bryn Teribl speed away on the back of a tractor.
— GOING TO RACE! sings Bryn, before crashing into another tractor.
Dear readers, he is not going to race. The Dakar Rally will have to do without his talents.