December 24, 2024

Mae Jeff wedi perswadio Daf y bydd digon o Dreamies gartref, ac felly mae’r cathod wedi penderfynu gadael Santes Dwynwen a’r diweddar Alan yn y Dinbych-y-pysgod Arall y tu hwnt i’r wardrob.

Beth fydd yn digwydd iddyn nhw?

Pwy a ŵyr? Does dim ots gyda’r cathod!

Ond wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r ganolfan grefft, maen nhw’n gweld ciw sydd yn ymdroelli o gwmpas yr holl fuarth.

Mae cannoedd o bobl yn aros am blatiad o gwstard erchyll Santes Dwynwen.

Ond does dim cwstard gan nad oes Santes Dwynwen. Mae’r rhes o bobl yn dod yn grac.

O diar.

Yn ôl â’r cathod i’r Dinbych-y-pysgod Arall!

“Mae cannoedd o bobl ym aros am blatiad o gwstard erchyll Santes Dwynwen.”

Saesneg / English

Queueing

Jeff has persuaded Dave that there will be enough Dreamies at home, and so the cats have decided to leave Saint Dwynwen and the late Alan in the Other Tenby beyond the wardrobe.

What will happen to them?

Who knows? The cats don’t care!

But as they return to the craft centre, they see a queue that winds around the whole yard.

Hundreds of people are waiting for a serving of St. Dwynwen’s horrible custard.

But there is no custard because there is no Saint Dwynwen. The line of people is getting angry.

Oh dear.

Back go the cats to the Other Tenby!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.