December 24, 2024

Mae Santes Dwynwen am achub Alan, Duw y Siagpeil, rhag y Frenhines Wen a Merched y Wawr.

— Bydd rhaid i ti ladd fi, medd Alan, sydd wedi ei strapio wrth gadair blastig.

— Beth? medd Santes Dwynwen.

— Rhaid i ti stwffio darn o garped i miwn i geg fi fel bo fi ddim yn gallu anadlu. Wrth i anadl fi stopo, bydd popeth yn OK.

— Nei di atgyfodi?

— Sai’mod, ond mae’n swno’n gyffrous, nag yw e?

— Sana i di dod i gyfarfod Merched y Wawr er mwyn bodloni dy droseddau bychain.

Yna, mae ysgrifenyddes y gangen Merched y Wawr, sy’ wedi cael hen ddigon o Alan a’i barablu, yn gwneud y gwaith ei hun, a thrywanu Alan drwy ei galon â gwaywffon gyfleus.

Ni ddaw atgyfodiad. Mae’r wlad yn parhau yn wyn â Shêc ‘n’ Fac. O diar.

“Bydd rhaid i ti ladd fi,” medd Alan.

Saesneg / English

Alan’s resurrection

Saint Dwynwen wants to save Alan, God of the Siagpeil, from the White Queen and the Daughters of the Dawn.

— You will have to kill me, says Alan, who is strapped to a plastic chair.

— What? says Saint Dwynwen.

— You must stuff a piece of carpet into my mouth so that I cannot breathe. As my breath stops, everything will be OK.

— Will you come back to life?

— Dunno, but it sounds exciting, doesn’t it?

— I haven’t come to a Merched y Wawr meeting to satisfy your peccadilloes.

Then, the branch secretary of Merched y Wawr, who has had quite enough of Alan and his chuntering, does the work herself, and stabs Alan through the heart with a convenient javelin.

No resurrection comes. The country remains white with Shake ‘n’ Vac. Oh dear.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.