December 25, 2024

Yng ngweledigaeth seicedelig Jeff y gath, mae’r enwog Julian Cope yn ei harwain ar daith gyn-hanesyddol drwy Sir Benfro.

Mae’n amlwg bod gan yr arch-drŵd damcaniaethau.

Wrth iddyn nhw gyrraedd Pentre Ifan, y gromlech fwyaf yng Nghymru, mae’r enwog Julian Cope yn dechrau gosod ei syniadau allan.

– ‘Set ti’n gallu gweld y Preselau, mae e’n dweud, yn chwifio braich yng nghyfeiriad cyffredinol niwl a glaw, – byddet ti’n sylweddoli taw antena yw’r gromlech.

(Nodyn archaeolegol: yng ngweledigaeth Jeff, nid yw’r garnedd wreiddiol o’i hamgylch.)

– I beth mae’n dda? gofyn Jeff y gath, ei llygaid soserol yn gwylio llwyni’n toddi’n lliwgar yn y niwl.

– Mae hi’n derbyn negeseuon oddi wrth y llong ofod massive ar ben y mynydd.

– Dyw hi ddim, meddai Jeff y gath.

Mae’r enwog Julian Cope yn oedi.

– Na, chwarae teg, dyw hi ddim, meddai’r arch-drŵd. – Ond do’n i ddim isie siarad am gladdu’r meirw rhag ofn i ti gael trip wael.

Yn sydyn, fe ddaw’r haul a chlirio’r niwl.

Mae llong ofod anferth ar ben y mynydd.

– Am annisgwyl, meddai Julian Cope.

Saesneg / English

Pentre Ifan

In Jeff the cat’s psychedelic vision, the famous Julian Cope is leading her on a prehistoric journey through Pembrokeshire.

It’s clear that the arch-drude has theories.

As they arrive at Pentre Ifan, the largest cromlech in Wales, the famous Julian Cope begins to expound his ideas.

– If you could see the Preselis, he says, waving an arm in the general direction of fog and rain, – you would realize that the cromlech is an antenna.

(Archaeological note: in Jeff’s vision, the original cairn is not around it.)

– What is it for? asks Jeff the cat, her saucer eyes watching bushes melting colourfully in the fog.

– It receives messages from the massive spaceship on top of the mountain.

– It doesn’t, says Jeff the cat.

The famous Julian Cope hesitates.

– No, fair play, it doesn’t, says the arch-drude. – But I didn’t want to talk about burying the dead in case you had a bad trip.

Suddenly, the sun comes out and clears the fog.

There is a giant spaceship on top of the mountain.

– How unexpected, says Julian Cope.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.