Mae Daf y gath wedi cael syniad am fenter newydd.
Mae hi am gyhoeddi cylchgronau amrywiol a’u gwerthu yn siop lyfrau Dewi Sant.
Mae hi’n meddwl taw dyna fydd yn ffordd dda i wneud tamaid bach o elw ychwanegol.
Ond beth fydd y pynciau?
Mae’r enwog Bryn Terfel yn gwirfoddoli i gynhyrchu cylchgrawn am hetiau ysblennydd.
Mae ei efell Owain Glyndŵr yn gwirfoddoli i gynhyrchu cylchgrawn am redeg o gwmpas yn afreolus.
Ond mae Daf y gath yn gwrthod y pynciau uchod.
Yn lle hynny, mae hi’n penderfynu cyhoeddi cylchgrawn am Dreamies a’u heffeithiau seicedelig.
Saesneg / English
Magazines
Dave the cat has had an idea for a new venture.
She wants to publish various magazines and sell them in Saint David’s bookshop.
She thinks that that will be a good way to make a little extra profit.
But what will the subjects be?
The famous Bryn Terfel volunteers to produce a magazine about splendid hats.
His twin Owain Glyndŵr volunteers to produce a magazine about running around uncontrollably.
But Dave the cat rejects the above topics.
Instead, she decides to publish a magazine about Dreamies and their psychedelic effects.