Mae’r enwog Bryn Terfel yn teimlo’n well, gan fod J. R. Hartley wedi dod o hyd i rywun arall i’w foddro, sef ein ffrind y Tywysog Owain Glyndŵr.
Mae J. R. Hartley eisiau rhith-awdur newydd i’w helpu gyda’i llyfr nesaf am lygredd afonydd, ac Owain Glyndŵr sydd yr ymgeisydd anymwybodol lwcus.
Nid yw Owain Glyndŵr yn awdur profiadol. Mewn gwirionedd, dyw e ddim hyd yn oed yn gallu darllen.
Mae J. R. Hartley yn rhoi ysgrifbin a phapur iddo. Mae Owain Glyndŵr yn bwyta’r cwbl lot, cyn rhedeg o gwmpas siop lyfrau Dewi Sant a deffro Daf y gath, sy’ ddim yn hapus o gwbl.
Saesneg / English
Owain Glyndŵr, awdur
The famous Bryn Terfel is feeling better, as J. R. Hartley has found someone else to bother, namely our friend the prince Owain Glyndŵr.
J. R. Hartley wants a new ghost-writer to help him with his next book about river pollution, and Owain Glyndŵr is the lucky unwitting candidate.
Owain Glyndŵr is not an experienced writer. In fact, he can’t even read.
J. R. Hartley gives him a pen and some paper. Owain Glyndŵr eats the whole lot, before running around Saint David’s bookshop and waking Dave the cat, who is not happy at all.