December 24, 2024

Mae’n amlwg taw rhy uchelgeisiol yw ceisio gwneud i Wir Dywysog Cymru gofio mwy nag un peth ar y pryd.

– Ble mae rhaid i ti fynd ar gyfer y Coroni? gofyn Dewi Sant. Eto.

– Fwwwwwwm, meddai Owain Glyndŵr. Mae e’n gorwedd ar y ddaear a chwarae gyda mwydyn. Mae e’n esgus bod y mwydyn yn gar drud gyda phibell wacáu mawr. Mae’r mwydyn wedi hen sylweddoli taw ynfytyn llwyr yw Owain Glyndŵr.

– Mae rhaid i ni ddefnyddio fe fel arf, mae Jeff y gath yn awgrymu. – Allen ni jyst rhoi bach o wthiad iddo fe a’i anelu tuag at y Brenin Mawrglustiau.

– Wel, ma fe’n sicr yn arf llwyr, meddai Dewi Sant. – Wyt ti’n meddwl fydd hynny’n gweithio?

– Odw glei. Falle bydd amser ar ôl y gwasanaeth iddo fe neud lap o anrhydedd wedi’r cwbwl.

O na.

Mae Jeff wedi dweud y geiriau tyngedfennol hynny.

Wedi clywed yr ymadrodd “lap o anrhydedd” mae Owain Glyndŵr yn codi ar ei draed, taflu ei fwydyn i ffwrdd a dechrau rhedeg o gwmpas yr ardd yn wyllt.

Mae Dewi Sant yn ochneidio. Eto.

Saesneg / English

Ambitious

It is obviously too ambitious to try to make the True Prince of Wales remember more than one thing at a time.

– Where do you have to go for the Coronation? asks Saint David. Again.

– Vooooooom, says Owain Glyndŵr. He is lying on the ground and playing with a worm. He is pretending that the worm is an expensive car with a big exhaust pipe. The worm has long since realised that Owain Glyndŵr is a complete moron.

– We have to use him as a weapon, suggests Jeff the cat. – We could just give him a bit of a push and aim him towards King Bigears.

– Well, he’s certainly a complete weapon, says Saint David. – Do you think that will work?

– Yes. Maybe there will be time after the service for him to do a lap of honor after all.

Oh no.

Jeff has said those fateful words. Having heard the phrase “lap of honour” Owain Glyndŵr gets up, throws his worm away and starts running wildly around the garden. Saint David sighs. Again.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.