December 24, 2024

Mae Owain Glyndŵr yn ymarfer ar gyfer coroni’r Brenin Mawrglustiau.

Mae Dewi Sant wedi ei addysgu e sut i ddefnyddio’r toiled a gwneud iddo fe addo na wneith e fwyta gormod o losin a chwydu yn yr eglwys.

Mae tri cham syml i Owain Glyndŵr gofio.

1. Mynd i’r eglwys gadeiriol yn Llundain.

2. Rhyddhau Cymru o goron Lloegr.

3. Gwneud lap o anrhydedd o gwmpas yr egwlys gadeiriol.

Ond mae Owain Glyndŵr yn ynfytyn. Bob tro mae Dewi Sant yn dweud yr ymadrodd “lap o anrhydedd”, bant â fe i redeg o gwmpas yr ardd ar gyflymder o gan milltir yr awr gyda cholandr ar ei ben.

Mae Dewi Sant yn ochneidio. Eto.

Saesneg / English

Rehearsals

Owain Glyndŵr is rehearsing for the coronation of King Bigears.

Saint David has toilet-trained him and made him promise not to eat too many sweets and be sick in church.

There are three simple steps for Owain Glyndŵr to remember.

  1. Go to the cathedral in London.
  2. Release Wales from the crown of England.
  3. Do a lap of honor around the cathedral.

But Owain Glyndŵr is a moron. Every time Saint David says the phrase “lap of honour”, he sets off running around the garden at a speed of a hundred miles an hour with a colander on his head.

Saint David sighs. Again.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.