Mae’r enwog Bryn Terfel yn rhedeg o gwmpas yn gyflymach nag arfer. Mae e wedi derbyn llythyr!

Gwahoddiad yw’r llythyr.

Mae’r llythyr yn gofyn i’r enwog Bryn Terfel ganu yng nghoroniad y Brenin Mawrglustiau.

Ond pa fath o benwisg fyddai’n briodol? Dyw ei dun rhostio ddim yn ddigon ysblennydd ar gyfer y math hwnnw o achlysur.

Mae Daf y gath yn cynnig hen golandr iddo fe.

– Bydd hwn yn neud y tro, meddai Daf.

Yn y cyfamser, mae pawb arall yn yr ardd wedi gwadu’r enwog Bryn Terfel am gymryd rhan mewn achlysur mor drefedigaethol. Mae Dewi Sant yn ei daflu e mas o’r ardd gyda’i dun rhostio a’i golandr a dweud ta-ta.

Saesneg / English

Colander

The famous Bryn Terfel is running around faster than usual. He has received a letter!

The letter is an invitation.

The letter asks the famous Bryn Terfel to sing at the coronation of King Bigears.

But what kind of headgear would be appropriate? His roasting tin is not splendid enough for that kind of occasion.

Dave the cat offers him an old colander.

– This

This’ll do, said Dave.

In the meantime, everyone else in the garden has disowned the famous Bryn Terfel for taking part in such a colonial occasion. Saint David throws him out of the garden with his roasting tin and colander and says ta-ta.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.