Mae Dewi Sant yn eistedd yn ei sied yng nghwmni’r cathod.
Mae Jeff yn gorwedd mewn hen flwch cardbord. Mae Daf yn gorwedd ar y gwely.
Mae Daf eisiau mynd mas. Mae hi’n mynd at y drws a dechrau crafu. Mae Dewi Sant yn codi ac agor y drws.
Mae Jeff yn bachu ar y cyfle a symud i’r gwely, yn slei bach.
Hmm. Dyw Daf ddim eisiau mynd mas wedi’r cwbl, mae’n debyg. Mae Dewi Sant yn cau’r drws ac eistedd i lawr.
Ond, wedi disodli Daf ar y gwely, mae Jeff wedi penderfynu ei bod hi eisiau mynd mas nawr. Mae hi’n mynd at y drws a dechrau crafu. Mae Dewi Sant yn codi ac agor y drws.
Mae Daf yn codi a meddwl am ddechrau brwydr, ond mae hi’n penderfynu yn ei erbyn. Mae hi’n dychwelyd i’r gwely.
Mae Jeff yn mynd yn ôl i’w blwch cardbord.
Maen nhw’n ailadrodd y patrwm dwywaith yn rhagor.
Mae Samuel Beckett yn cymeradwyo.
– O da iawn, meddai Samuel Beckett. – Y’ch chi bron yn barod ar gyfer y llwyfan.
Saesneg / English
Saint David is sitting in his shed with the cats.
Jeff is lying in an old cardboard box. Dave is lying on the bed.
Dave wants to go out. She goes to the door and starts scratching. Saint David gets up and opens the door.
Jeff seizes the opportunity and moves to the bed, sneakily.
Hmm. Dave doesn’t want to go any more, apparently. Saint David closes the door and sits down.
But, having replaced Dave on the bed, Jeff has decided that she now wants to go out. She goes to the door and starts scratching. Saint David gets up and opens the door.
Dave gets up and thinks about starting a fight, but she decides against it. She returns to the bed.
Jeff goes back into her cardboard box.
They repeat the pattern twice more.
Samuel Beckett applauds.
– Oh very good, says Samuel Beckett. – You’re almost ready for the stage.