Mae pawb yn mwynhau canu emynau William Williams Pantycelyn. Ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n mwynhau ei drefn newydd. Mae popeth yn dawelach nag o’r blaen.

Ond yn araf bach, mae e wedi bod yn gwneud newidiadau eraill, heb i neb sylweddoli, er mwyn i bawb gyrraedd y nefoedd.

Mae e’n gwahardd Dewi Sant rhag yfed. Pechod yw yfed, mae’n debyg.

Mae e’n gwahardd Santes Dwynwen rhag gwneud cwstard cariad. Anfoesol yw cwstard cariad, mae’n debyg.

Ond yn waeth fyth, mae e’n gwahardd y cathod rhag bwyta Dreamies. Mae bwyta Dreamies yn mynd yn groes i’r Ysgrythur, mae’n debyg.

Am gamgymeriad! Mae’r cathod eisiau eu Dreamies nhw. Nawr. Mae William Williams Pantycelyn wedi mynd rhy bell.

Mae Daf y gath yn ymosod ar William Williams Pantycelyn nerth ei chrafangau. Mae gwaed a fflwff dros y lle i gyd.

Dyma William Williams Pantycelyn, yn gorwedd ar y ddaear. Dyma Daf y gath, yn sefyll ar fron William Williams Pantycelyn.

– Dreamies, nawr, meddai Daf.

Saesneg / English

Changes

Everyone is enjoying singing the hymns of William Williams Pantycelyn. And most of them are enjoying his new regime. Everything is quieter than before.

But he has been gradually making other changes, without anyone realising it, so that everyone can get to heaven.

He forbids Saint David from drinking. Drinking is a sin, apparently.

He forbids Saint Dwynwen from making love custard. Love custard is immoral, apparently.

But even worse, he forbids the cats from eating Dreamies. Eating Dreamies goes against Scripture, apparently.

What a mistake! The cats want their Dreamies. Now. William Williams Pantycelyn has gone too far.

Dave the cat attacks William Williams Pantycelyn with the full force of her claws. There is blood and fluff all over the place.

Here is William Williams Pantycelyn, lying on the ground. Here is Daf the cat, standing on William Williams Pantycelyn’s chest.

– Dreamies, now, says Dave.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.