December 25, 2024

Mae Daf y gath wedi cael hen ddigon ar yr enwog Bryn Terfel yn dwyn pethau o bwys er mwyn eu gwisgo nhw fel hetiau ysblennydd.

Daeth y gwelltyn olaf wrth i’r enwog Bryn Terfel ddwyn powlen fwyd Daf.

Felly, mae Daf wedi penderfynu datrys y broblem trwy gyflogi hetiwr personol ar gyfer yr enwog Bryn Terfel.

Ond nawr mae problem arall.

Mae’r hetiwr yn gweithio’n gyflym iawn. Mae hetiau dros y lle i gyd. Ac yn waeth fyth, ‘dyn nhw ddim yn arbennig o ysblennydd. Cyn bo hir, mae pawb yn boddi mewn môr o hetiau anysblennydd.

Mae’r enwog Bryn Terfel wedi drysu’n lan. Mae hetiau, mae hetiau ym mhobman, ond does dim yr un gwerth ei wisgo.

Mae e’n cydio yn ei hen dun rhostio, a’i roi ar ei ben yn llawen.

Saesneg / English

The hatter

Dave the cat has had enough of the famous Bryn Terfel stealing important things in order to wear them as splendid hats.

The last straw came when the famous Bryn Terfel stole Dave’s food bowl.

Therefore, Dave has decided to solve the problem by employing a personal hatter for the famous Bryn Terfel.

But now there is another problem.

The hatter is working very quickly. There are hats all over the place. And even worse, they’re not particularly spectacular. Soon, everyone is drowning in a sea of unspectacular hats.

The famous Bryn Terfel is totally confused. There are hats, there are hats everywhere, but there is none worth wearing.

He grabs his old roasting tin, and happily puts it on his head.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.