October 17, 2024

Mae Jeff y gath yn drist.

Mae’n bwrw glaw yn ddi-baid, ac felly does dim cyfle iddi hela llygod. Mae hi’n dioddef o iselder.

– Paid becso, Jeff, meddai Daf ei chwaer. – Daw eto haul ar bryn.

– Ti ‘di camdreiglo eto, meddai Jeff, yn rholio ei llygaid. – ‘Daw eto haul ar fryn’ yw’r dywediad.

– Na, meddai Daf, – Daw eto haul ar Bryn.

Mae bwlch yn ymddangos yn y cymylau. Mae’r haul yn dechrau disgleirio trwyddyn nhw. Ynghanol yr ardd, mae’r enwog Bryn Terfel yn sefyll yn stond. Mae e’n gwisgo ei hoff dun rhostio fel het ysblennydd, a drewir gan belydrau’r haul gan greu effaith eurgylch.

– T’weld? gofyn Daf. – Daw eto haul ar Bryn.

Saesneg / English

The sun will come again on the hill / Things will get better

No translation of this one. If anyone can see a way to make the Bryn / Fryn joke work in English, you’re welcome to try.

“daw eto haul ar fryn” = the sun will come again on the hill = (idiomatically) things will get better.

“a drewir gan belydrau’r haul”: the impersonal form (passive voice) of the present tense. “Which is struck by the sun’s rays.” This means roughly the same as what we’d say in colloquial Welsh as “sydd yn (sy’n) cael ei daro gan belydrau’r haul.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.