Mae Eifion yr octopws mor hapus fod ei fam-gu Margaret ferch Owain wedi dod i’r ardd. Mae e heb ei gweld hi ers achau.
Sut all bod dynol fod yn fam-gu i octopws?
Does neb yn gwybod.
Ond wrth edrych yn fanylach, mae’r tebygrwydd yn amlwg, yn enwedig wrth ystyried tentaclau Margaret, sydd yn gwingo o dan ei ffrog.
Saesneg / English
Genetics
Eifion the octopus is so happy that his grandmother Margaret daughter of Owain has come to the garden. He hasn’t seen her in ages.
How can a human being be a grandmother to an octopus?
Nobody knows.
But when looking in more detail, the similarities are obvious, especially when considering Margaret’s tentacles, which are wiggling under her dress.