December 25, 2024

Mae taten newydd yn yr ardd. Mae e’n casáu pawb a phopeth. Yn ei ôl e, ddylai neb wneud dim byd o gwbl. Mae e wedi creu posteri sydd yn dweud “PEIDIWCH.”

Mae e eisiau ailgyflwyno’r gosb eithaf. Dyw’r meirw ddim yn gallu aildroseddu, yn ei ôl e.

Pa fath o droseddau sy’n haeddu’r gosb eithaf, yn ôl y daten newydd?

Popeth.

Dim ond esgus yw e, mewn gwirionedd. Yn y bôn, mae e eisiau lladd pobl ar hap.

Diolch byth, dyw’r Prifdaten ddim o blaid y Daten Eithaf, er bod y Daten Eithaf yn cynhyrfu’r tatws eraill. Am y tro cyntaf, mae’r Prifdaten yn gofyn i’r cathod am help.

Mae Jeff eisoes wedi gadael am ddimensiwn arall ar y catnip. Felly dyw hi ddim yn llawer o help o gwbl.

Heb feddwl dwywaith, mae Daf yn dechrau gwawdio’r Daten Eithaf, sydd ddim yn gallu goddef cael ei wawdio. Fel canlyniad, mae e’n ffrwydro. Am lanast.

Saesneg / English

Capital Punishment

There is a new potato in the garden. He hates everyone and everything. According to him, nobody should do anything at all. He has created posters that say “DON’T.”

He wants to reintroduce the death penalty. The dead cannot reoffend, according to him.

What kind of crimes deserve the death penalty, according to the new potato?

Everything.

It’s just an excuse, really. Basically, he wants to kill people at random.

Thankfully, the Prime Potato is not on the side of the Most Extreme Potato, even though the Most Extreme Potato is getting the other potatoes excited. For the first time, the Prime Potato asks the cats for help.

Jeff has already left for another dimension on the catnip. So she’s not much help at all.

Without thinking twice, Daf begins to mock the Most Extreme Potato, who can’t stand being ridiculed. As a result, he explodes. What a mess.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.