October 16, 2024

Mae Daf y gath wedi prynu siwt a het beltoper newydd. Roedd hi eisiau siwt oren, fel ei ffwr hi.

– Beth yw’r pwynt? meddai Jeff. – Ti’n edrych yn gwbl noeth.

“Beth yw’r pwynt? Ti’n edrych yn gwbl noeth.”

– Ond mae’r het yn ysblennydd.

– Ydy, mae’r het yn ysblennydd.

Yn anffodus mae Bryn Terfel ac Eifion yr octopws ill dau yn hoff iawn o hetiau ysblennydd.

Mae ffrae yn dilyn.

Dyma Bryn Terfel sy’n gwisgo siwt a het newydd Daf. Mae popeth yn dynn iawn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.