October 16, 2024

Mae hi’n oer yn yr ardd.

Mae Santes Dwynwen yn gwisgo ei chot fawr, a’i esgidiau eira, rhag ofn.

Tra bod Daf y gath a Jeff ei chwaer yn cyrlio i fyny yn sied Dewi Sant, mae Bryn Terfel yn adeiladu strwythur newydd o fananas. Mae golwg iglw ar y strwythur, ar wahân i’w ddefnydd.

– Be ti neud, Bryn? gofyn Santes Dwynwen.

– Dwi’n neud lloches i’n hunan mas o fananas.

– Ond cyn gynted ag y bydd chwant bwyd arnat ti, byddi di’n ‘i fwyta fe.

Ond mae’n rhy hwyr. Mae’r gwledda wedi dechrau yn barod.

Saesneg / English

Cold

It’s cold in the garden.

Santes Dwynwen is wearing her big coat, and her snow boots, just in case.

While Dave the cat and her sister Jeff curl up in Dewi Sant’s shed, Bryn Terfel is building a new structure out of bananas. The structure looks like an igloo, apart from its material.

– What you doing, Bryn? asks Saint Dwynwen.

– I’m making a shelter for myself out of bananas.

– But as soon as you’re hungry, you’ll eat it.

But it’s too late. The feasting has already begun.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.