October 16, 2024

Mae Daf y gath wedi cael syniad newydd. Mae hi’n mynd i achub yr iaith Gymraeg.

Mae hi’n bwriadu cynnal rali yn yr ardd. Mae’r tatws yn hoffi’r syniad yn fawr iawn, ond yn anffodus maen nhw wedi camddeall a chyhoeddi rhyfel ar y rhosod.

Ar ddiwrnod y rali, mae Jeff yn gwneud placardiau. Mae hi wedi camddeall hefyd. Mae’r placardiau yn dweud “Mwy o Fisgedi”, “Cofiwch Ein Bwydo Ni”, a “Dim Tabledi”.

Mae’r holl fenter yn drychineb.

Mae Daf yn rhoi’r gorau i achub yr iaith, cymryd llond llaw o catnip, a chychwyn am ddimensiwn arall.

Saesneg / English

Rally

Dave the cat has had a new idea. She is going to save the Welsh language.

She plans to hold a rally in the garden. The potatoes like the idea very much, but unfortunately they have misunderstood and declared war on the roses.

On the day of the rally, Jeff makes placards. She has misunderstood too. The placards read “More Biscuits”, “Remember to Feed Us”, and “No Pills”.

The whole initiative is a disaster.

Dave gives up on saving the language, takes a handful of catnip, and sets off for another dimension.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.