Mae Bryn Terfel yn profi cwstard newydd Santes Dwynwen. Mae hi wedi bod yn ffidlo gyda’i pheiriant cwstard dros y Nadolig a chreu rysáit newydd.
Mae’r cwstard yn wyrdd.
– Mae’n edrych yn ofnadw gyda bananas, meddai Bryn Terfel.
– Shwt mae’n blasu?
– Yn ofnadw. Ti angen newid y rysáit eto.
Ond mae llwyth o gwstard gwyrdd ar ôl.
Mae syniad gyda Bryn Terfel. Syniad da iawn. Mae e’n llenwi’r piano, lle mae Samuel Beckett wedi bod yn ymguddio, â chwstard, er mwyn boddi’r awdur enwog, rhag ofn iddo dwyn mwy o fananas.
Ond wrth i’r piano lenwi, mae Bryn Terfel yn sylweddoli bod Samuel Beckett wedi dianc yn barod. Mae e’n rhedeg ar hap o gwmpas yr ardd yng nghwmni Daf y gath.
Saesneg / English
Testing
Bryn Terfel is testing Santes Dwynwen’s new custard. She has been fiddling with her custard machine over Christmas and has created a new recipe.
The custard is green.
– It looks awful with bananas, said Bryn Terfel.
– What does it taste like?
– Awful. You need to change the recipe again.
But there is a load of green custard left.
Bryn Terfel has an idea. A very good idea. He fills the piano, where Samuel Beckett has been hiding, with custard, in order to drown the famous author, in case he steals more bananas.
But as the piano fills up, Bryn Terfel realises that Samuel Beckett has already escaped. He is running randomly around the garden in the company of Dave the cat.