Toc wedi pump o’r gloch, dyma Jeff y gath yn llusgo rhyw bethau eraill i’r ardd.
Mae Dewi Sant heb gael gwared ar y sgwid anferth eto, ond dyma Jeff yn dod ag octopws a chwpl o ystifflogod newydd.
Mae’r ystifflogod eisoes wedi marw. Maen nhw’n drewi.
Ond mae’r octopws yn dal i fod yn fyw. Ac mae e mor grac. Mae e’n chwifio ei dentaclau yn gandryll.
– Bydd e’n un well am jyglo na’r chwarter-siarc, meddai Daf y gath, yn gadael am ddimensiwn arall ar y catnip.
Saesneg / English
Shortly after five o’clock, here’s Jeff the cat dragging some other things into the garden.
Saint David has not got rid of the colossal squid yet, but here’s Jeff bringing an octopus and a couple of new cuttlefish.
The cuttlefish are already dead. They stink.
But the octopus is still alive. And he is so angry. He is waving his tentacles furiously.
– He will be better at juggling than the quarter-shark, says Dave the cat, leaving for another dimension on the catnip.