Mae Dewi Sant yn cynnal cystadleuaeth ddawnsio yn yr ardd. Fe fydd yn farnwr, gyda Santes Dwynwen a’r Frenhines Branwen.
Pwy sy’n dawnsio’n gyntaf?
– Yn dawnsio gyda’i bartner Franz Kafka, dyma Samuel Beckett yn dawnsio’r tango Archentaidd, meddai llais dirgel o’r nefoedd.
Mae’r tango’n slic a secsi.
– Saith! meddai Santes Dwynwen.
– Wyth! meddai’r Frenhines Branwen wrth gwympo oddi ar ei sedd.
– Pump! meddai Dewi Sant wrth gynnau sigarét.
Pwy sy’n perfformio yn ail?
– Yn dawnsio gyda’i bartner, ymm, rhyw feipen neu’i gilydd, dyma’r hanner-siarc yn dawnsio’r Viennese Waltz.
Mae’r wals yn draed moch i gyd.
– Pedwar! meddai Santes Dwynwen wrth wenu’n garedig.
– Pedwar! meddai’r Frenhines Branwen o’r llawr.
– Dau! meddai Dewi Sant, wrth arllwys cwrw arall.
Pwy sydd y trydydd i ddawnsio?
– Ac yn awr, yn dawnsio gyda’i phartner Jeff, dyma Daf y gath yn dawnsio’r hoci-coci.
Mae’r cathod yn dechrau cwffio’n ffyrnig.
– Deg! meddai Dewi Sant.
Saesneg / English
Dance contest
Saint Judge is holding a dancing competition in the garden. He will be a judge, with Saint Dwynwen and Queen Branwen.
Who is dancing first?
– Dancing with his partner Franz Kafka, here is Samuel Beckett dancing the Argentine tango, says a mysterious voice from heaven.
The tango is slick and sexy.
– Seven! says Saint Dwynwen.
– Eight! said Queen Branwen as she falls off her seat.
– Five! says Saint David while lighting a cigarette.
Who is performing second?
– Dancing with his partner, um, some kid or other, here is the half-shark dancing the Viennese Waltz.
The waltz is a complete shambles.
– Four! says Santes Dwynwen while smiling kindly.
– Four! says Queen Branwen from the floor.
– Two! says Saint David, while pouring another beer.
Who is the third to dance?
– And now, dancing with her partner Jeff, here is Dave the cat dancing the hokey-hokey.
The cats start scrapping violently.
– Ten! says St. David.