Mae Jeff y gath yn folrwym ar ôl iddi fwyta’r Archfadarch. Dyw hi ddim yn gallu mynd i’r tŷ bach ers amser hir.

– Yn yr hen ddyddiau, baswn i’n cymryd olew iau penfras, meddai Santes Dwynwen.

– Dim diolch, meddai Jeff.

Mae Jeff yn parhau i fod yn folrwym. Mae hi’n anghyffyrddus iawn.

– Yn yr hen ddyddiau, baswn i’n cymryd surop o ffigys, meddai Dewi Sant.

– Dim diolch.

– Pan ydw i’n folrwym, meddai Daf y gath, – dw i jyst yn cario ymlaen i fwyta. Yn y pen draw, bydd y bwyd newydd gwthio’r cwbl lot drwyddot ti.

Gall Daf y gath fod yn help weithiau.

Wedi iddi fwyta blwch cyfan o fwyd cathod mae Jeff yn teimlo fel ei bod hi’n mynd i ffrwydro.

Mae hi’n gorwedd i lawr.

Yna, fe ddaw’r ffrwydrad.

– Iesu mawr, meddai Daf y gath.

Saesneg / English

Constipated

Jeff the cat is constipated after eating the Arch-mushroom. She hasn’t been able to go to the toilet for a long time.

– In the old days, I used to take cod liver oil, says Saint Dwynwen.

– No thanks, says Jeff.

Jeff continues to be constipated. She is very uncomfortable.

– In the old days, I used to take syrup of figs, says Saint David.

– No thank you.

– When I’m hungry, says Dave the cat, – I just carry on eating. Eventually, the new food will just push the whole lot through you.

Dave the cat can sometimes be a help.

After she’s eaten a whole box of cat food Jeff feels like she’s going to explode.

She lies down.

Then comes the explosion.

– Jesus Christ, says Dave the cat.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.