December 24, 2024

Amser tabled yw e. Mae’r staff yn lapio’r tabledi mewn cig moch. Mae Jeff y gath yn bwyta’r cig moch a gadael y dabled.

Mae’r staff yn cael gafael ar Jeff. Mae hi’n gwingo a chwyno, ond yn fuan iawn mae hi’n rhoi’r gorau i wrthod a chymryd ei thabled. Merch dda yw Jeff.

– Dy dro di yw e nawr, Daf.

– Nac ydy.

Mae’r Staff yn cael gafael ar Daf. Mae hi’n gwingo a chwyno. Mae Daf yn rhyfeddol o gryf.

Mae hi’n gwrthod y cig moch. Mae hi’n gwybod beth sy’n digwydd.

Mae’r dabled yn mynd i mewn, ac mae’r dabled yn dod mas.

Mae hyn yn digwydd gymaint o weithiau nad oes lot o dabled ar ôl. Dyw Daf ddim yn hapus o gwbl. Mae poer cath a gwaed y staff dros y lle i gyd.

Yn y pen draw, mae’r staff wedi cael digon.

– Daf, wyt ti isie tamaid bach o gaws?

– O, ydw, diolch yn fawr.

A dyna Daf yn cymryd ei thabled.

Saesneg / English

Tablet time

It’s tablet time. The staff wrap the tablets in ham. Jeff the cat eats the ham and leaves the tablet.

The staff get hold of Jeff. She wriggles and complains, but very soon she stops refusing and takes her tablet. Jeff is a good girl.

– It’s your turn now, Dave.

– No it isn’t.

The Staff get hold of Dave. She wriggles and complains. Dave is surprisingly strong.

She refuses the ham. She knows what’s going on.

The tablet goes in, and the tablet comes out.

This happens so many times that there is not much tablet left. Daf is not happy at all. There is cat spit and the staff’s blood all over the place.

Ultimately, the staff have had enough.

– Dave, would you like a little bit of cheese?

– Oh, yes, thank you very much.

And there’s Dave taking her tablet.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.