December 24, 2024

Un tro, roedd Daf y gath yn meddwl am ennill bach o arian ychwanegol. Doedd y fenter fflwff ddim wedi gweithio o gwbl, ac erbyn hyn roedd pentyrrau o obenyddion llawn o fflwff Daf o gwmpas yr ardd.

Roedd blwch cardbord newydd gyda hi.

Yn sydyn, fe gafodd syniad.

– Be ti neud fan hyn? holiodd Dewi Sant, yn smocio ei ugeinfed ffag y dydd.
– Mae gen i syniad am fenter newydd, atebodd Daf. – Bydd llwyth o elw.
Safodd Dewi yn stond, yn aros am nonsens newydd oddi wrth Daf.

– Menter Dragwyddoldeb yw hi, parhaodd y gath, yn falch iawn o’i chreadigrwydd. – Fe all pobol neud apwyntiad gyda’r tragwyddoldeb am dâl bach.
– Yn y blwch hwn?
– Yn y blwch hwn.
– A beth fydd yn digwydd? gofynnodd Dewi Sant, heb eisiau gwybod.
– Bydd pobol yn iste yn y blwch am awr neu ddwy, meddai Daf.

Roedd tawelwch.

– Wel, bydd ‘ny’n tymlo fel tragwyddoldeb, yn sicr, cytunodd Dewi Sant.
– Yn gwmws, meddai Daf.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.