Mae fflwff ym mhobman.
Mae fflwff yng nghwstard Santes Dwynwen. Mae’r hanner-siarc yn jyglo peli o fflwff.
Mae fflwff yn glynu wrth selsig Franz Kafka. Mae fflwff dros boteli cwrw Dewi Sant.
Mae fflwff dros y tatws. Mae fflwff dros y madarch.
Mae popeth yn boddi mewn fflwff.
– Am grafiad da, meddai Daf y gath.