Un tro, roedd hi’n Ddydd Gŵyl Dewi. Roedd Dewi Sant yn eistedd ar fainc tu allan i’w sied, yn ysmygu ffag ac yfed cwrw.
– Pam nad wyt ti’n dathlu? gofynnodd Daf y gath, yn bwyta crempog.
– Achos bo fi di cal llond bola o ffycin cennin a daffodiliau, meddai Dewi. – Flwyddyn ar ôl blwyddyn, ma pawb yn rhoi ffycin cennin i fi. Sai hyd n ôd hoffi blydi nionod.
– Dydd Crempogiau yw e fyd, meddai Daf, yn sydyn. – Ti isie crempog?
– Nadw. A paid meddwl bo fi’n mynd i roi’r gorau i ddim byd dros y Grawys.
Ond yr oedd hi’n rhy hwyr. Tra oedd Daf wedi bod yn siarad â Dewi, roedd Jeff y gath wedi bod yn dwyn ei ffags a’i gwrw o’i sied. Grawys hir a arhosodd iddynt.