Un tro, roedd Dewi Sant yn llusgo wagen y tu ôl i’r sied wrth i bawb deithio i’r arfordir am ddiwrnod bant. Nid oedd digon o le y tu mewn i’r sied ei hun, felly roedd y cathod yn cadw cydbwysydd ar y tô, a phawb arall yn eistedd yng nghefn y wagen.
Cyn bo hir, dechreuodd y parti cwympo oddi ar y wagen, fesul un. Yn gyntaf, cwympodd y hanner-siarc i mewn i dwll yn y ddaear. Yna cwympodd Draig y ci i mewn i lwyn.
Gwyliodd y cathod y wagen yn gwacáu. Rholiodd Keith y gowrden ar hyd y ffordd heb ddweud dim byd.
– Rhaid bod hyn yn drosiad am rywbeth, meddai Daf y gath, ar ben y sied.
– Siwr o fod, meddai Jeff. – Y’n ni bron di cyrredd eto?