Un tro, roedd Daf y gath yn pendroni. Nid oedd eisiau arni fod yn ddychanol am y byd go iawn. Roedd digwyddiadau’n rhy drist am hynny, ac yr oedd hyd yn oed y Prifdaten yn dawel am unwaith.
Felly beth i’w wneud?
Fe ddechreuodd hi gasglu ffyn, a chreu llythrennau gan eu rhoi nhw ar y ddaear. Gwirfolodd Jeff i helpu, ac ar ôl iddynt sylweddoli pwysigrwydd ei neges, ddaeth pawb er mwyn gyfrannu i’r ymdrech.
A beth oedd ei neges?
CACHA YN DY WELY, LLONG RYFEL RWSIAIDD.
– Arwyr wedden nhw i gyd, meddai Daf.
– Wedden, cytunodd Jeff.