Un tro, wrth i Daf y gath fusnesa o gwmpas blwch cardbord arall, daeth sŵn ofnadwy o gyfeiriad sied Dewi Sant. Rhedodd Dewi allan o’i sied yn sgrechian.
– Be sy’n bod arnat ti? gofynnodd Daf.
– Ma fe’n dod nôl, meddai Dewi Sant.
– Pwy? Yr Esgob? gofynnodd Daf, yn disgwyl pennod arall o goludd ofnadwy’r arweinydd crefyddol.
– Na. Y ffycin Prifdaten. Fe ges i lythyren hir iawn oddi wrtho fe. Mewn priflythrennau i gyd. Y diawl diflas.
– Ond nath Keith y gowrd ddinistrio fe.
– Ma na wastod un arall, meddai Dewi, yn drist.