Un tro, roedd Daf yn gwisgo siaced leder a sbectol haul, ys smygu ffag ger y bin.
– Daf, gofynnodd Jeff, – Pam ti ‘di gwisgo fel na?
– Pimp dw i, meddai Daf. – Menter newydd yw e.
– Nag wyt. Sdim ond un ohonot ti.
– Pimp. Puteinfeistr.
– Puteinfeistr? Wes puteiniaid da ti, ‘te?
– Wel, nag wes. Ond ma gen i fwced, meddai Daf.
Erbyn hyn, roedd hi wedi drysu Jeff yn llwyr.
– Ga i’u rhoi rhai ynddo fe, awgrymodd Daf, yn ansicr.