– Mae’n gwyntog heddi yndife? meddai Daf y gath wrth i do sied Dewi Sant ddiflannu i’r storm. Roedd yn amhosib i’r hanner-siarc jyglo yn y gwynt, hyd yn oed â phethau trwm.
– Ody wir, atebodd Jeff. – Draig y ci sy ar fai. Ma’r staff di rhoi tabledi mwydod iddo fe. Mae fe’n fflympo’n ddi-baid.
Daeth sŵn o rech ofnadwy arall. Diflannodd yr holl ardd.
– Wedd hwna’n annisgwl, meddai Daf.