October 16, 2024

Un diwrnod, roedd Jeff y gath yn gyffrous.

– Daf, Daf, dw i’n mynd i fod ar y radio!
– Go iawn?
– Go iawn.

Cerddodd ling-di-long tuag at hen radio enfawr a oedd tu allan i’r sied Dewi Sant. Roedd e’n chwarae cân gan Datblygu. Neidiodd ar ei ben.

– Drycha, dw i ar y radio. – Mae’n gyffyrddus. Yn gynnes hefyd.
– Da iawn, meddai Daf, a pharhau i lyfu ei hun.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.