October 16, 2024

Daeth yr esgob i ymweld â Dewi Sant. Doedd e ddim yn hapus o gwbl. Eisiau gwybod pam nad oedd eglwys newydd gyda fe eto yr oedd e, heb sôn am y sied ac yr yfed.

Rowliodd Dewi Sant sigarèt a dweud dim byd. Edrychodd ar yr esgob â ddirmygiaeth bur.

– Shwmae, meddai Jeff y gath. – Os fyddi di’n aros am sbel, wyt ti’n medru helpu fi symud y rhain i mewn i’r sied?
Amneidiodd tuag at bentwr o focsys o fwyd cathod.
– YMWELIAD UNNOS YW HWN, ebychodd yr esgob.
– Dw i’n hoffi pethe unnos, meddai Santes Dwynwen.

Parhaodd Daf y gath i lyfu ei hunan.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.