Roedd hi wedi bod yn noson galed. Wrth ymyl y biniau, oedd Dewi Sant yn cysgu’n sownd, â llwyth o boteli o’i gwmpas. Roedd ‘na gwstard ym mhobman, a phan ddihunodd Daf y gath, gwelodd e Santes Dwynwen yn rhwygo nicars, un pâr ar ôl y llall. Roedd hi’n amlwg ei bod hi’n dal wedi meddwi.
– Be’ ‘ti ‘neud? gofynnodd Daf.
– Rhwygo nicars fi, atebodd Santes Dwynwen, yn aneglur.
– Dim ond rhwygo dy nicars?
– Ydw.
– Ond y teitl… we fi’n meddwl…
– Dw i ond yn rhywgo nicars fi. Jyst… nicars.
Gyda hynny, syrthiodd Santes Dwynwen i lawr.
– Reit, meddai Daf, wrth i Franz Kafka ymddangos, yn chwifio selsigen.