Dihunodd Dewi Sant â chefn tost arno. Ceisiodd symud o gwmpas ei sied, ond oedd popeth yn wneud dolur iddo.
Daeth y cathod i “helpu”.
– Ffisiotherapwyr dych chi? gofynnodd Dewi Sant.
– Wel, nac ydyn, ond we ni’n meddwl y byddai’n bach o hwyl i drio, meddai Daf, heb unrhyw sensitifrwydd.
– Shwt ddechreuodd y broblem? Gest ti dy anafu rhywsut? gofynnodd Jeff, yn wneud nodiadau.
Edrychodd Dewi Sant ar Santes Dwynwen yn nerfus.
– Er… sai’mod.
– Gorwedd fan hyn, meddai Daf.
Am sawl munud, roedd disgrechain ofnadwy o boen i’w glywed yn dod allan o’r sied. Yn sydyn, bu tawelwch.
– Well i ni fynd, awgrymodd Daf.
– Byddai, cytunodd Jeff.