October 16, 2024

Dyma Daf y gath sinsir. Mae e wedi cael ei fwyd e, ac nawr mae Daf eisiau chwarae.

Mae Daf yn gofyn i aelod staff i chwarae gyda fe. Mae e’n cerdded o gwmpas eu coesau nhw, cyn hela ei gynffon ei hunan.

“Dw i eisiau chwarae,” meddai Daf.
Mae’r aelod o staff yn taflu pêl. Mae Daf yn edrych ar y bêl heb ddiddordeb.
“Dim fel hyn,” meddai Daf, a cherdded bant.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.