Lle mae Jeff y gath wedi ysgrifennu englyn.
– Daf, Daf, meddai Jeff y gath galico yn gyffrous, – dw i ‘di sgwennu englyn penfyr.
– Pam yn y byd fyddet ti ‘di neud hwnna? meddai Daf, yn flinedig. – Ti’n gath, wedi’r cyfan.
– Ti’n barod?
– Iawn, atebiodd Daf, heb ddiddordeb. – Beth yw’r teitl?
– “Chwant bwyd”.
– Wrth gwrs.
Neidiodd Jeff ar fwrdd yr ardd, a dechrau darllen yn ei llais pwysig hi.
CHWANT BWYD
gan Jeff y gath
Yn aml, pan rwy’n llwgu – ble mae’r staff?
Rwy’n bloeddio a gwgu
A dinistrio eich lenni chi.
– Ti ‘di gorffen? gofynnodd Daf.
– Odw, atebiodd Jeff.
– Bydd e’n fwy fel haiku pan fydd e’n cael ei gyfieithu yn Saesneg. A so’r peth yn odli’n iawn, a bod yn fanwl gywir.
– Fydd neb yn sylweddoli, oni bai bo’ ti’n tynnu sylw ati, pwdodd Jeff.
– Dyna ni, meddai Daf, wedi tynnu sylw ati.