Roedd Daf y gath yn yr ardd, yn eistedd ger y sied lle’r oedd Dewi Sant nawr yn byw. Daeth llais Dewi Sant o gymyl o fwg.
– Byddai’n well ‘da ti ddysgu shwt i gyfri, ‘ngath annwyl i.
– Pam yn y byd fyddwn i isie neud hwnna? gofynnodd Dave, yn anargyhoeddedig.
– Mae’n lot o hwyl yn y Gymraeg. ‘Drycha.
Pwyntiodd Dewi Sant ar fwrdd wen lle’r oedd e wedi ysgrifennu pob math o lol.
– Go iawn? meddai Daf.
– Bant â ni, atebodd Dewi Sant.
Yn fuan, gallai Daf gael ei glywed yn ymarfer. Cynulliodd y madarch mewn diddordeb.
– Pymtheg, un ar bymtheg, dau ar bymtheg, deunaw! meddai Daf, a derbyn rownd o gymeradwyaeth gan y madarch.
– Pymtheg ar bymtheg ar chwech, hanner cant ar ddeunaw ar un ar ddeg, drigain ar gant ar bymtheg, BINGO, meddai Daf, cyn cwympo i lawr mewn gorflinder.
Peneliniodd Jeff y gath yn Daf.
– Gwranda, sdim ond un peth werth ei gyfri – sef bwyd – a dim ond tri nifer sy’ angen: powlen llawn, bron digon, a “ble mae’r staff?”
Ochneidiodd Daf mewn ryddhad.
– Ti’n iawn.
– Fi’n gwbod.
Edrychodd Dewi Sant ar ei wydraid wisgi, a oedd yn wag.
– Ble mae’r staff? meddai.