Daeth Dewi Sant i’r ardd i ymweld â Daf y gath, a oedd yn ymolchi ei draed.
– Pwy dych chi, ‘te? gofynnodd Daf.
– Dewi Sant dw i, meddai Dewi Sant, yn tynnu’n dwfn ar ei sigarèt. Roedd croen ei wyneb yn llwyd ac yn rhychiog, a’i ddillad yn hen iawn.
– So chi’n edrych fel Sant.
– Alla i ddim weud ‘mod i’n ymddwyn fel Sant chwaith.
Pesychodd, ac edrych yn fyw llygaid Daf.
– Dw i isie cwyno.
– Iawn, meddai Daf, heb ddiddordeb. – Bant â chi.
Cwynodd Dewi Sant. Am bopeth, am oriau. O’r diwedd, bu tawelwch.
– Chi ‘di gorffen? gofynnodd Daf.
– Odw.