September 17, 2024

Mae Jeff y gath wedi cael hen ddigon o fod yn Brif Weinidog. Mae hi’n ymddiswyddo, a hyrddir y wlad i drobwll anhrefn.

O diar.

Yn y cyfamser, mae’r enwog Bryn Teribl wedi prynu sied fawr am hanner can ceiniog. Mae llythrennau uwchben y drws, mewn llawysgrif anwastad.

“Weldo”.

Dyma ei weithdy newydd. Bydd yn ofalus, Bryn!

Mae Daf y gath yn dychwelyd o Wynedd gyda Franz Kafka, sydd yn rhyfeddol o fach. Mae gan Franz Kafka fag enfawr llawn selsig.

Mae Bryn Teribl yn dechrau weldio’r selsig at ei gilydd.

O, Bryn.

“Mae Bryn Teribl yn dechrau weldio’r selsig at ei gilydd.”

Saesneg / English

Welding

Jeff the cat has had quite enough of being Prime Minister. She resigns, and the country is thrown into a whirlpool of chaos.

Oh dear.

Meanwhile, the famous Bryn Teribl has bought a large shed for fifty pence. There are letters above the door, in unsteady handwriting.

“Weldo”.

This is his new workshop. Be careful, Bryn!

Dave the cat returns from Gwynedd with Franz Kafka, who is surprisingly small. Franz Kafka has a huge bag full of sausages.

Bryn Teribl begins welding the sausages together.

Oh, Bryn.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.