November 21, 2024

Roedd Daf y gath yn meindio ei fusnes ei hunan yn yr ardd, ar brynhawn llwyd, tra bod Dragon y ci’n cyfarth ar y wiwerod.

Yn sydyn, daeth menyw grand trwy’r gât, a oedd golwg pryderus arni. Roedd hi’n gwisgo ffrog gain iawn.

– Pwy dych chi, ‘te? meddai Daf, heb ddiddordeb.
– Y FRENHINES BRANWEN YR YDWYF. AR FINNAU YDY’R BAI, bloediodd y fenyw grand, mewn priflythrennau.
– Sori iawn i glywed e, atebiodd Daf. – Be’ ti siarad amdani?
– DINISTRIAF BOPETH TRWY’R AMSER! ebychodd Branwen, â dagrau’n cronni yn ei llygaid.
– Wel, peidiwch â dinistrio fy fan, plis. Dw i angen e am fy nosbarthiade.
– Beth ydy “fan”? Os yr ydych yn gath, pam yr ydych yn gallu siarad?

Mae’r pobol cain ‘ma’n poen yn y pen ôl, meddyliodd Daf y gath. Gormod o gwestiynau, a geiriau hen ffasiwn.

– Dyma fy fan, meddai, yn ei ddangos iddi.
– Blwch cardbord ydy, meddai’r Frenhines Branwen, yn codi fan Daf i lan i’r awyr.
Aeth fan Daf ar dân yn syth. Gollyngodd Branwen y cardbord oedd yn llosgi. Gwyliodd Daf yn fud wrth i’w fan yn llosgi tan nad oedd dim byd ar ôl.

– Wel, diolch yn fawr iawn, meddai Daf.
– Paid becso, meddai Jeff y gath, a oedd wedi bod yn gwylio o gornel bellach yr ardd. – Galli di uwchraddio i flwch plastig. Bydd e’n gyflymach.
– Wfft i hwnna, meddai Daf. Setlodd i lawr a chwympo i gysgu.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.